Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 17 Ebrill 2024

Amser y cyfarfod: 13.30
 


201(v5)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol

Heledd Fychan (Canol De Cymru): Pa asesiad mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei wneud o’r posibilrwydd bydd Amgueddfa Cymru yn cau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd oherwydd dirywiad yr adeilad?

I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ganfyddiadau'r crwner ym marwolaeth Dr Kim Harrison a amlygodd fethiannau difrifol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe?

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

(5 munud)

NNDM8542 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jane Hutt (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Lesley Griffiths (Llafur Cymru).

</AI6>

<AI7>

Cynnig i benodi Aelod i Gomisiwn y Senedd

(5 munud)

NNDM8543 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Hefin David (Llafur Cymru) yn aelod o Gomisiwn y Senedd.

</AI7>

<AI8>

5       Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)

(60 munud)

NDM8536 Sam Rowlands (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru).

Gosodwyd y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 24 Tachwedd 2023.

Dogfennau ategol

Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb gan Sam Rowlands AS i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Saesneg yn unig)

Ymateb gan Sam Rowlands AS i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Ymateb gan Sam Rowlands AS i’r Pwyllgor Cyllid (Saesneg yn unig)

</AI8>

<AI9>

6       Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Ynni niwclear ac economi Cymru

(60 munud)

NDM8535 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ‘Ynni niwclear ac economi Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2024.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ebrill 2024. At hynny, cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth y DU ar 10 Ebrill 2024. (Saesneg yn unig)

</AI9>

<AI10>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

(30 munud)

NDM8537 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi ymddiswyddiad Pennaeth Ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

2. Yn mynegi ei phryder bod didueddrwydd gwleidyddol Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cael ei beryglu.

3. Yn nodi:

a) bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi penodi uwch fargyfreithiwr i ymchwilio i honiadau o ddidueddrwydd gwleidyddol; a

b) mai'r person a benodir yw James Goudie KC.

4. Yn nodi nad yw'n credu bod y penodiad yn briodol o ystyried bod James Goudie KC yn gyn-ymgeisydd seneddol Llafur, yn gyn-gadeirydd ar Gymdeithas Cyfreithwyr Llafur, yn gyn-lefarydd Llafur dros Faterion Cyfreithiol yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac yn gyn-arweinydd Cyngor Brent dros y Blaid Lafur.

5. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo'r Pwyllgor Cyllid i adolygu ar frys weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i sicrhau:

a) bod didueddrwydd a thegwch yn bresennol drwy gydol cyflogaeth y cyn Bennaeth Ymchwiliadau; a

b) y gall y Senedd fod yn hyderus bod y swyddfa yn gallu cynnal ymchwiliadau yn y dyfodol mewn ffordd ddiduedd a theg.

6. Yn galw ar Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ddatgelu telerau ymadawiad y cyn Bennaeth Ymchwiliadau, er budd craffu cyhoeddus.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) ymddiswyddiad Pennaeth Ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;

b) bod yr Ombwdsmon wedi penodi uwch fargyfreithiwr i ymchwilio i honiadau;

c) fel ‘awdurdod rhestredig’ dan oruchwyliaeth yr Ombwdsmon, na fyddai’n briodol i Lywodraeth Cymru wneud sylw ar yr ymchwiliad; a

d) bod y Senedd yn disgwyl i’r Ombwdsmon adrodd yn ôl i’r Senedd maes o law ynglŷn â chanlyniad yr ymchwiliad.

</AI10>

<AI11>

8       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Trafnidiaeth

(30 munud)

NDM8538 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu nad yw polisïau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn addas i'r diben.

2. Yn gresynu'r rhaniad rhwng trafnidiaeth yng ngogledd a de Cymru, gyda £50 miliwn wedi'i ddyrannu i Fetro Gogledd Cymru, a thros £1 biliwn i Fetro De Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i gynnal adolygiad ar frys o'r profion adeiladu ffyrdd presennol gyda'r bwriad o weithredu'r holl gynlluniau a gafodd eu dileu yn y gorffennol a fydd yn hybu twf economaidd neu'n gwella diogelwch ar y ffyrdd;

b) i wrthdroi ar frys Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 a mabwysiadu dull wedi'i dargedu ar gyfer terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru; ac

c) i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus i wneud bysiau a threnau'n fwy cystadleuol â theithio mewn car.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu:

a) nad yw polisïau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn addas i’r diben;

b) bod diffyg cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru yn ganlyniad gofidus i’r ffaith bod penderfyniadau dros drafnidiaeth yn cael eu gwneud a'u rheoli gan bobl y tu allan i Gymru;

c) bod diffyg cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru yn deillio o fethiannau hanesyddol a chyfredol i fuddsoddi mewn teithiau o fewn Cymru; a

d) bydd datrys materion o fewn rhwydwaith trafnidiaeth Cymru ond yn bosibl drwy ddatganoli'r holl bwerau dros drafnidiaeth i Gymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ailystyried ei phenderfyniad i beidio â lansio her gyfreithiol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddynodi HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr;

b) gweithredu ar frys i weithredu'r adolygiad parhaus o effaith y terfynau cyflymder newydd, fel y cytunwyd yn flaenorol gan bleidlais y Senedd o blaid NDM8347 fel y’i diwygiwyd, ar 13 Medi 2023;

c) blaenoriaethu cyllid teg i fysiau sy'n gosod cyllid bws ar yr un sail teg â chyllid rheilffyrdd; a

d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatganoli'r holl bwerau dros drafnidiaeth i Gymru.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrando ynghylch gwahanol faterion, gan gynnwys trafnidiaeth a chysylltedd.

2. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru sy’n cydnabod:

a) gwerth seilwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys ffyrdd, o ran ein heconomi a’n cymdeithas; a

b) y gall Llywodraeth Cymru wella’r ffordd y mae’n dylunio ac yn adeiladu seilwaith ffyrdd newydd, a chynnal yn well rwydwaith ffyrdd presennol Cymru.

3. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i fireinio’r gwaith o weithredu terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru, gan gynnwys ystyried y canllawiau ar ddosbarthiad ffyrdd, newid terfynau cyflymder ar rai ffyrdd a pharhau i drafod â chymunedau.

</AI11>

<AI12>

9       Cyfnod Pleidleisio

 

</AI12>

<AI13>

10    Dadl Fer

(30 munud)

NDM8534 James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Effaith seilwaith ynni adnewyddadwy ar gymunedau gwledig

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 23 Ebrill 2024

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>